ATODIAD B -Rheolau Sefydlog diwygiedig sy’n adlewrychu’r newidiadau a gynigir

RHEOL SEFYDLOG 25 – Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor i'w gwneud o dan adran 109 o’r Ddeddf

Cynigion am Orchymyn gan Aelod heblaw aelod o’r llywodraeth

25.26          Gall unrhyw Aelod, heblaw aelod o’r llywodraeth, gyflwyno cynnig sy’n galw ar y llywodraeth i gyflwyno Gorchymyn arfaethedig o dan adran 109 o’r Ddeddf.

25.27 Pan fydd Aelod yn cyflwyno cynnig o dan bwynt 25.27, rhaid iddo hefyd gyflwyno memorandwm esboniadol sy’n cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

i)   yr effaith fyddai cynnig am Orchymyn yn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;

ii)  esboniad o pam, ym marn yr Aelod, mae’r Gorchymyn yn angenrheidiol;

iii) manylion ynghylch unrhyw gymorth a gafwyd i’r cynnig, gan gynnwys manylion unrhyw ymgynghori a wnaed.

25.28 Os oes o leiaf deg Aelod, sy’n aelodau o dri grŵp gwleidyddol gwahanol neu fwy, yn cefnogi’r cynnig a gyflwynwyd o dan Reol Sefydlog 25.27 rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r cynnig a’r memorandwm esboniadol at bwyllgor neu bwyllgorau i’w hystyried.

25.29 Pan fydd cynnig o dan Reol Sefydlog 25.27 yn cael ei gyfeirio at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried o dan Reol Sefydlog 25.29, rhaid i’r Pwyllgor Busnes bennu a chyhoeddi amserlen er mwyn i’r pwyllgor neu bwyllgorau ystyried y cynnig a chyflwyno adroddiad yn ei gylch.

25.30 Rhaid trefnu bod amser ar gael i drafod cynnig a gyfeiriwyd at bwyllgor neu bwyllgorau o dan Reol Sefydlog 25.29, ac ni chaniateir gwneud cynnig o’r fath nes y bydd naill ai:

(i)       y pwyllgor neu bwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 22.59;

neu

(ii)      bod y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i bwyllgor neu bwyllgorau gyflwyno adroddiad arno, yn unol â Rheol Sefydlog 25.30, wedi mynd heibio.

25.31 Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 25.27 os na fyddai’n glir, yn sgil penderfyniad gan y Cynulliad i gymeradwyo’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan welliant o’r fath, sut fyddai’r Cynulliad am weld ei gymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei addasu.

25.32 Os gwrthodir cynnig o dan Reol Sefydlog 25.27, ni chaiff Aelod wneud cynnig o dan Reol Sefydlog 25.27 am gyfnod o chwe mis ar ôl gwrthod y cynnig os yw’r cynnig, ym marn y Llywydd, yn ceisio rhoi yr un cymhwysedd deddfwriaethol, neu yr un cymhwysedd deddfwriaethol i raddau helaeth.

RHEOL SEFYDLOG 24 – Diffiniad o Aelod sy’n Gyfrifol am Ddeddfwriaeth

Biliau Aelodau  

24.14 Cyfeirir at Filiau nad ydynt yn Filiau’r llywodraeth, Biliau pwyllgor nac yn Filiau’r Comisiwn, fel “Biliau Aelod”.

24.15          Yr Aelod sy’n gyfrifol am Bil Aelod yw:

(i)       yr Aelod a gafodd gytundeb i gyflwyno Bil o dan Reol Sefydlog 26.91;

(ii)      Aelod arall sydd wedi’i awdurdodi gan yr Aelod o dan Reol Sefydlog 24.15(i), drwy gyfrwng datganiad i’r perwyl hwnnw a osodwyd gan yr Aelod hwnnw; neu

(iii)     os na roir awdurdodiad felly, unrhyw Aelod sydd wedi’i awdurdodi gan y Cynulliad.

24.16 Caiff Aelod drosglwyddo Bil i aelod o’r llywodraeth sydd wedi’i awdurdodi gan Brif Weinidog Cymru, drwy gyfrwng datganiad i’r perwyl hwnnw a osodwyd gan yr Aelod hwnnw.

24.17          Pan fydd Aelod yn trosglwyddo Bil i aelod o’r llywodraeth (yn unol â Rheol Sefydlog 24.16), mae’r Bil hwnnw i’w gyfrif, o hynny allan, fel Bil llywodraeth.

 

Rheol Sefydlog 26 – Deddfau’r Cynulliad

26.86 Mewn achos pan oedd Aelod yn cyflwyno cynnig a ddaeth yn Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed gan Ei Mawrhydi o dan adran 109 o’r Ddeddf, caiff yr Aelod hwnnw gyflwyno Bil sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwnnw o fewn naw mis i’r dyddiad y daw’r Gorchymyn i rym. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl yr Aelod i ymuno â balot a gynhelir o dan Reol Sefydlog 26.87.